Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (135) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 11 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 4 a 5 eu grwpio. Gwahoddodd y Diprwy Lywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Gofynnwyd cwestiynau 1 i 5, 7 a 9 i 11. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 8.
3 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 15.00
4 Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu
Dechreuodd yr eitem am 15.14
Pwynt o Drefn
Cododd Andrew RT Davies, Arweinydd yr Wrthblaid, bwynt o drefn yn gofyn am benderfyniad ar y dogfennau a oedd wedi’u rhoi i Aelodau mewn perthynas â’r Datganiad ar yr Adroddiad Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu, yn enwedig yr Atodiad i’r Rhaglen Lywodraethu a oedd ond wedi’i roi ar-lein i Aelodau yn hwyrach.
Penderfynodd y Dirprwy Lywydd fod disgwyl i ddogfennau y cyfeirir atynt mewn datganiadau fod ar gael i Aelodau ac, oherwydd bod amheuaeth ynghylch beth oedd wedi’i roi y prynhawn yma, cytunodd i adolygu Cofnod y Trafodion a dychwelyd at y mater pe bai o’r farn bod angen penderfyniad pellach.
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Y Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio ac ymateb i’r Adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur
Dechreuodd yr eitem am 16.15
6 Cynnig i gymeradwyo Egwyddorion Cyffredinol y Bil Teithio Llesol (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 16.50
NDM5251 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Teithio Llesol (Cymru)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Teithio Llesol
Dechreuodd yr eitem am 17.46
NDM5252 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Teithio Llesol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfnod Pleidleisio
Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 17:47
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 5 Mehefin 2013